"Sali Mali" lyrics - SUPER FURRY ANIMALS

SUPER FURRY ANIMALS
"Sali Mali"

Mae gennym gwch a hwnnw'n suddo
Ond paid cyhuddo fi o beidio gwneud dim
Tymhestloedd gwyllt sydd wedi ein dilyn
A does dim tir I ni gael rhedeg I ffwrdd
Ti'n wylo pan dwi'n chwerthin

Ond pan ddaw diwedd y byd
Dwisho bod hefo ti
A phan ddaw'r byd I ben
(Dwisho bod hefo ti)

A phan ddaw'r dilyw mawr
Dwisho bod hefo ti
A phan ddaw'r awyr I lawr
(Dwisho bod hefo ti)

A drwy afonydd o dan cawn nofio
A phan ddaw'r byd I ben

Mae gennym ardd a honno yn gwywo
Heblaw y celyn sydd yn pigo o hyd
Mae'r drain yn ddwys a'r gwair at fy sgwyddau
A llafn y pladur sydd yn malu o hyd
Dwi'n wylo pan ti'n chwerthin

Ond pan ddaw diwedd y byd
Dwisho bod hefo ti
A phan ddaw'r byd I ben
(Dwisho bod hefo ti)

A phan ddaw'r dilyw mawr
Dwisho bod hefo ti
A phan ddaw'r awyr I lawr
(Dwisho bod hefo ti)

A drwy afonydd o dan cawn nofio
A phan ddaw'r byd I ben

Sali Mali
Sali Mali
Sali Mali
Sali Mali

Dwi'n wylo pan ti'n chwerthin

Ond pan ddaw diwedd y byd
Dwisho bod hefo ti
A phan ddaw'r byd I ben
(Dwisho bod hefo ti)

A phan ddaw'r dilyw mawr
Dwisho bod hefo ti
A phan ddaw'r awyr I lawr
(Dwisho bod hefo ti)

Sali Mali
(Dwisho bod hefo ti)
Sali Mali
(Dwisho bod hefo ti)
Sali Mali
(Dwisho bod hefo ti)
Sali Mali
(Dwisho bod hefo ti)
Sali Mali

Mae Jaci Soch yn oer yn y nos